Pam Adnoddau Busnes? Oherwydd bod eich llwyddiant yn bwysig
Deallwn y gall llywio dwyieithrwydd ac integreiddio’r Gymraeg yn eich gweithrediadau fod yn daith drawsnewidiol. Dyna pam yr ydym wedi curadu adnoddau sy'n mynd y tu hwnt i ganllawiau - maent yn grymuso'ch busnes i ffynnu.
Beth sy'n aros amdanoch chi yn ein Hadnoddau Busnes:
Cyflwyniadau Bangor AI
Lois McGrath
Prifysgol Bangor
Gareth Morlais
Arbenigwr Technoleg Cymraeg,
Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Klaire Tanner,
CreuTech
Dr Irfan Rais
Ymgynghorydd Ymchwil
Stefano Ghazzali
Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr
Aled Jones
Cymen Cyf.
Asedau marchnata Cymraeg,
diolch i'r Platfform Digidol...
-
Gwefan Cymraeg
5 awgrym i wella hygyrchedd eich gwefan
-
CMS
5 CMS poblogaidd
-
Blogio
5 syniad cynnwys blog i'ch busnes
-
Marchnata
5 syniad cynnwys marchnata
-
Cynnwys
Creu cynnwys i newyddlen ddigidol
-
Cymorth gyda sgamiau
Sgamiau sy'n targedu busnesau
-
Storfa
Storfa leol a storfa gwmwl
-
Wix v Wordpress
Wix a Wordpress - 5 gwahaniaeth i ystyried
-
Helo Blod
Gall defnyddio'r Gymraeg gael effaith fawr ar dy fusnes.
Ac mae Helo Blod yma i roi help llaw yn rhad ac am ddim - gwasanaeth cyfieithu a chynghori Cymraeg cyflym a chyfeillgar.
-
Hapus i Siarad
Mae’r prosiect “Hapus i Siarad” yn rhoi cyfle i ddysgwyr Cymraeg siarad Cymraeg mewn busnesau bach lleol sy’n “hapus i siarad”. Mae busnesau bach yn rhan bwysig o’n cymunedau a’n bywydau bob dydd. Ac maen nhw'n llefydd perffaith i siarad Cymraeg. Mae’r prosiect hwn rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Mentrau Iaith yn cychwyn fel peilot yn Rhondda Cynon Taf, Ceredigion a Fflint a Wrecsam.
-
Iaith Gwaith
Mae'r cynllun wedi hen ennill ei blwyf yng Nghymru bellach. Mae gweithwyr sy’n gallu cynnig gwasanaeth Cymraeg i'r cyhoedd yn gwisgo bathodyn neu gortynnau gwddf Iaith Gwaith. Ar gyfartaledd rydym yn dosbarthu 54,500 o fathodynnau, cortyn gwddf a phosteri yn flynyddol.
-
Comisiynydd y Gymraeg
Gall defnyddio’r Gymraeg arwain at ddenu cwsmeriaid newydd a chynyddu enw da eich busnes neu elusen.
System ar lein er mwyn hunan asesu eich gwasanaethau
Cymorth i baratoi Cynllun Datblygu sy’n gyfle i adnabod eich prif wasanaethau Cymraeg
Cymorth wrth weithio tuag at gydnabyddiaeth swyddogol y Comisiynydd am eich Cynnig Cymraeg
Hyfforddiant a chymorth un i un yn seiliedig ar eich anghenion
Cyfarfodydd rhwydweithiau rheolaidd er mwyn rhannu profiadau ac arfer da
Canllawiau ymarferol ar bob agwedd o ddatblygu gwasanaethau Cymraeg;
Gwasanaeth prawfddarllen - hyd at 1,000 o eiriau’r flwyddyn.
-
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yw'r corff cenedlaethol sy'n arwain, datblygu a hyrwyddo cyfieithu proffesiynol. Hi yw'r unig gymdeithas broffesiynol ar gyfer cyfieithwyr Cymraeg i/o'r Saesneg, p'un a ydynt yn gyfieithwyr testun ynteu'n gyfieithwyr ar y pryd.
-
Cynnig Cymraeg
Cynnig Cymraeg yw cydnabyddiaeth gan y Comisiynydd i sefydliadau sydd wedi creu cynllun datblygu'r Gymraeg. Dyma gyfle i ddangos i'ch defnyddwyr eich bod yn ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg ac yn barod i'w defnyddio.
-
Thema
Thema Gymraeg sydd yn galluogi aml-ieithrwydd yn hawdd yw Thema. Mae yn hawdd i'w lwytho ar unrhyw wefan WordPress ag yn cynnwys llwyth o newidiadau sydd yn eich galluogi i reoli a rhedeg eich gwefan amlieithog yn hawdd.
-
Technoleg Cymraeg : Helo Blod
Mae rhywbeth at ddant pawb ar y rhestr yma, p’un ai dy fod ti angen gwirio sillafu a gramadeg neu gyflwyno’r Gymraeg i dy gyfrifiadur. Efallai dy fod ti hyd yn oed yn chwilio am help wrth ddatblygu meddalwedd, adnoddau neu wasanaethau newydd yn Gymraeg. Dyma’r lle i ti hefyd.
-
TermCymru
Cronfa ddata chwiliadwy o dermau y mae cyfieithwyr Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio yn eu gwaith bob dydd.
-
Yr Arddulliadur
Cyngor ac arweiniad i'r rhai sy'n cyfieithu testunau cyffredinol. Gallwch chwilio am eiriau penodol neu bori fesul adran.
-
Glossaries
Rhestrau o dermau mewn meysydd penodol, gan gynnwys termau hil ac ethnigrwydd, termau LGBTQ+, a thermau allweddol COVID-19.
-
Cysgliad
Mae Cysgliad yn feddalwedd sy’n helpu i ysgrifennu Cymraeg. Mae’n addas ar gyfer pobl sy’n rhugl eu Cymraeg, dysgwyr, a phobl ddi-Gymraeg.
Mae’n gweithio ar gyfrifiaduron Windows ac mae dwy brif ran iddi, Cysill i wirio sillafu a gramadeg, a Cysgeir fel cyfres o eiriaduron
-
Tocyn
Swyddfa Docynnau Ar-lein ar gyfer digwyddiadau Cymraeg
-
Pecyn Cymorth Technoleg Dwyieithog
Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i gynnig prosiect neu wasanaeth TG yn Gymraeg ac yn Saesneg.
