C’Mon Cymraeg

Yn cyflwyno... C'mon Cymraeg: cyfres byr o bodlediadau gan Bwrlwm ARFOR sy'n tynnu ar leisiau amrywiol i ystyried effaith y Gymraeg ar ffyniant busnesau a chymunedau ARFOR. Felly os oes gennych chi ddiddordeb mewn balchder ieithyddol ar draws Ceredigion, Sir Gâr, Gwynedd a Môn, dyma’r podlediad i chi! 

Diolch arbennig i ddisgyblion adran gerdd Ysgol Uwchradd Caergybi am greu’r jingl y clywch chi ar gychwyn pob pennod — am dalent!

Yn y bennod gyntaf, byddwn ni’n archwilio’r syniad o feithrin siaradwyr Cymraeg, a sut mae mynd ati i wneud hynny’n effeithiol ym myd busnes a thu hwnt…