effaith arfor
Mae ARFOR yn fenter ar y cyd gan Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy'n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygu'r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, cynnal yr iaith.
ail wedd arfor
Ar 10 Hydref 2022, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru y bydd £11 miliwn pellach yn cael ei ddarparu ar gyfer ail wedd ARFOR hyd at diwedd Mawrth 2025.
Bydd y rhaglen yn parhau i weithredu ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr, er mwyn:
Cefnogi'r cymunedau sy'n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyraethau economaidd fydd hefyd yn cyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol.
Bydd gwybodaeth ynglŷn â gweithgaredd ail wedd ARFOR yn dilyn maes o law; yn y cyfamser, gellir darllen cyhoeddiad Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
GWEDD GYNTAF ARFOR
Yn 2019, yn dilyn cytundeb cyllidebol rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, darparwyd £2 miliwn i Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn i dreialu dulliau arloesol o gefnogi'r economi yng nghadarnleoedd y Gymraeg hyd at Mawrth 2021.
Roedd y gweithgaredd yn cynnwys:
darparu cymorth ariannol i gefnogi sefydlu a datblygu busnesau;
mentora pobl ifanc a'u cefnogi i fentro drwy law Llwyddo'n Lleol 2050;
hyrwyddo a rhannu straeon cadarnhaol am lwyddiant o fewn yr ardal;
cefnogi busnesau i sicrhau mynediad i offer cyfoes; a,
cefnogaeth i sefydlu a datblygu metrau cymdeithasol i warchod adnoddau allweddol o fewn gymunedau yng nghadarnleoedd y Gymraeg.
Ymhlith canlyniadau gwedd gyntaf y Rhaglen dyma:
154 o fusnesau yn derbyn cymorth;
238 o swyddi cyfwerth llawn amser a 89 o swyddi rhan amser yn cael eu creu; a,
226 o swyddi yn cael eu gwarchod.
Mae mwy o wybodaeth am y gweithgaredd a'r canlyniadau ar gael o:
Crynodeb Gweithredol Gwerthusiad o'r Rhaglen ARFOR - Wavehill Cyf., Hydref 2021
Gwerthuso, Casgliadau ac Argymhellion Rhaglen ARFOR - Wavehill Cyf., Hydref 2021
Adroddiad Interim: llunio strategaeth datblygu ar gyfer y dyfodol - Wavehill Cyf., Chwefror 2021
AMCANION STRATEGOL RHAGLEN ARFOR
un
Creu cyfleoedd i bobl a teuluoedd ifanc (≤ 35 oed) aros neu i ddychwelyd i’w cymunedau cynhenid - gan eu cefnogi i lwyddo’n lleol drwy fentro neu ddatblygu gyrfa a sicrhau bywoliaeth sydd yn cyflawni eu dyheadau.
tri
Uchafu budd gweithgaredd drwy gydweithio - drwy sefydlu meddylfryd dysgu drwy wneud a gwella parhaus, dysgu o weithgaredd o fewn ardaloedd unigol ac yna ei ymestyn, ond gyda teilwra i amgylchiadau lleol.
dau
Creu cymunedau mentrus o fewn y fro Gymraeg - drwy gefnogi mentrau masnachol a chymunedol sy’n anelu i gadw a chynyddu cyfoeth lleol gan fanteisio ar hunaniaeth a rhinweddau unigryw eu hardaloedd.
pedwar
Cryfhau hunaniaeth cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg - drwy gefnogi defnydd a gwelededd y Gymraeg, annog naws am le a theyrngarwch lleol, ynghyd â chynyddu ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n gyffredin ar draws yr rhanbarth.
llwyddo'n lleol 2050
llwyddo'n lleol 2050
Llwyddo’n Lleol 2050
Un o brosiectau Rhaglen Arfor yw Llwyddo'n Lleol 2050. Gydag allfudo teuluoedd a phobl ifanc yn cael ei gydnabod fel un o'r prif resymau am ddirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cadarnleoedd, nod Llwyddo'n Lleol 2050 yw darbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc sydd mewn peryg o adael neu sydd eisoes wedi ymadael bod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda o fewn maes cyffrous, yn eu cymuned gynhenid.
cronfa her arfor
Hoffech chi wybod mwy am Gronfa Her ARFOR?
Uchelgais Cronfa Her rhaglen ARFOR fydd i archwilio datrysiadau sydd yn cryfhau'r berthynas rhwng iaith
ac economi, a rydym yn chwilio am gynlluniau sy'n cynnig profi'r canlynol;
Mae defnyddio iaith yn rhoi hwb i'r economi
Mae defnyddio iaith yn rhoi cyfleoedd cyflogaeth newydd i gyflogwyr a staff
Mae defnyddio iaith yn gallu helpu i greu brand ac atyniad i fusnesau
Mae defnyddio iaith yn gallu tanio ymdeimlad o falchder, gan gynnwys teimlo'n perthyn i gymuned a chael cyfle i siarad â phobl eraill sy'n siarad yr un iaith.
Bydd Cronfa Her ARFOR ar agor i geisiadau cydweithredol rhwng unrhyw unigolion, sefydliadau, grwpiau cymunedol neu busnesau sy'n barod i ddangos datrysiad arloesol i her sy'n bodoli yn eu cymuned leol.
O’r angen i ddefnyddio mwy o Gymraeg mewn busnes, hyd at ddefnyddio cynhyrchion Cymraeg fel catalydd i danio gweithgarwch economaidd, mae bylchau sylweddol mewn gwaith ymchwil o ran ein dealltwriaeth o’r hyn y gellir ei wneud i gynnal a datblygu’r iaith ar draws ARFOR a gweddill Cymru.
Felly, nod Arsyllfa yw i ystyried syniadau ac ymchwil fydd yn cynnig cefnogaeth i’r economi wledig Gymreig er mwyn datblygu arloesedd a ffyrdd newydd o weithio.
arsyllfa
CYMUNEDAU MENTRUS - CRONFA CEFNOGAETH RHAGLEN ARFOR
Yn targedu mentrau masnachol, cymdeithasol, chydweithredol a cymunedol sydd yn anelu at gadw a chynyddu cyfoeth yn lleol mewn ardaloedd sy'n cael eu hystyried yn gadarnleoedd y Gymraeg, sef Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin (rhanbarth ARFOR).
Mae'r gronfa yn cael ei weinyddu gan y Cynghorau Sir.
Beth sydd ar gael:
Gyllid i gyfrannu at gostau refeniw a chyfalaf.
Cefnogaeth ariannol i dalu am hyd at 70% o gostau'r prosiect.
Cefnogaeth rhwng £5,000 a £75,000 ar gael.
Mae'r Gronfa am gefnogi prosiectau sy'n:
Creu cyfle i arloesi a datblygu mentrau newydd yn unol ag adnoddau, tirwedd a'r amgylchedd lleol.
Creu neu ehangu cyfleoedd gwaith cyfoes (e.e. ym meysydd y cyfryngau, y byd digidol, ymchwil, gwasanaethau proffesiynol).
Cadw cyfoeth yn y rhanbarth (e.e. trwy feysydd megis cynhyrchu ac arbed ynni, cadwyni cyfenwi'r sectorau sylfaenol).
Mae na ofyniad i ymgeiswyr gwblhau asesiad Iaith sy'n cael ei gynnal gan Comisiynydd y Iaith fel rhan o'r proses ag ymrwymo i weithio gyda'r Comisiynydd y Iaith i gael cydnabyddiaeth Cynnig Cymraeg erbyn Rhagfyr 2024.
Am mwy o wybodaeth a'r proses ceisio yn eich ardal chi ewch i (plîs nodwch dydi'r dogfennau dim ond ar gael i lawrlwytho ar hyn o bryd):
Gwynedd - Grantiau a chymorth ariannol
Ynys Môn - ARFOR ar waith
Ceredigion - Cynllun Arloesi ARFOR