Straeon Llwyddiant: Grymuso'r Dyfodol, Dathlu Llwyddiant.

Dewch i gwrdd â’r entrepreneuriaid sydd wedi harneisio pŵer y Gymraeg nid yn unig i ffynnu yn y presennol ond hefyd i lunio yfory llewyrchus.

Diwylliant yw curiad calon ein cymunedau, ac rydym yn falch o gefnogi mentrau sy’n dathlu ac yn cadw treftadaeth Gymreig. Rhannwch eich profiadau, mewnwelediadau, a llwyddiant wrth i ni ddathlu'r lleisiau amrywiol sy'n gwneud ARFOR yn gymuned ddeinamig a ffyniannus.

Astudiaethau achos Cymunedau Mentrus Môn…

  • Dalion ni i fyny gyda Llinos Rowlands, cynlluniwr strategol a marchnata un o fusnesau mwyaf poblogaiddDolgellau…

    Enw’r cwmni: Gwin Dylanwad Wine

    Blwyddyn a sefydlwyd: 2014

    Beth mae’r cwmni yn ei gynnig? Gwin a bwydydd cain yn y siop a caffi-bar; siop arlein a chyfanwerthu i fwytai, siopau a tafarndai.

    Manylion cyswllt y busnes: 01341422870 | dylan@dylanwad.co.uk | dylanwad.co.uk/

    Beth yw eich cyngor i rywun sy’n meddwl cychwyn busnes? 

    Gwirio bod galw am y busnes yn yr ardal yn y man cyntaf. Yna, cynllunio yn ofalus a sdicio at y cynllun  mae’n cymryd amser hir i sefydlu. Manteisiwch ar bob cwrs busnes a marchnata sydd ar gael, hefyd.

    Beth ydych chi’n cyfrannu i’r ardal, fel busnes? 

    Cyflogaeth PAYE sefydlog trwy’r flwyddyn sy’n galluogi staff i gael morgais i brynu tai, gwasanaeth win o safoni bobl lleol a busnes gwahanol gyda proffil uchel sy’n helpu i ddenu pobl i’r ardal. 

    A allai’ch busnes gwneud mwy o ran dwyieithrwydd, yn eich barn chi? 

    Rydym yn stryglo i gadw fyny gyda’nsafle wê yn Gymraeg. Ond mae ein staff yn siarad Cymraeg ac rydym yn defnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngaucymdeithasol.

    Ydych chi wedi cael mynediad at unrhyw adnoddau i helpu’ch busnes ar y daith? 

    Do, llawer iawn gan Cyngor Gwynedd, Busnes Cymru a Cymru Ddigidol.

    Beth yw’r gwers mwyaf yr ydych wedi ei ddysgu hyd yma, gyda’ch busnes? 

    Pwysigrwydd hyfforddiant staff a chadw llygad barcud ar ffigyrau!

  • Cyfleoedd ychwanegol i Fôn a’i phobl ddisgleirio diolch i fuddsoddiadau a chynlluniau cyffrous Aria Studios 

    Derbyniodd Aria Film Studios fuddsoddiad sylweddol gan raglen Cymunedau Mentrus Môn i wella seilwaith allanol eu stiwdio er mwyn caniatáu cynnal dau gynhyrchiad ar yr un pryd. Dalion ni i fyny gydag Iddon Jones, Gweithredwr Stiwdio Aria Film Studios, i drafod y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru a Môn. 

    Beth fyddai’ch cyngor chi i berson ifanc sy’n ystyried gadael yr ardal i chwilio am gyfleoedd gwaith yn y byd ffilm a theledu? 

    Mae’r byd ffilm a theledu yn ddiwydiant byrlymus a chyffrous ac mae profiadau sy’n cyfoethogi gyrfa lewyrchus i’w gael ar hyd y byd o LA i Lundain i Langefni. Mae’r diwydiant hefyd yn medru bod yn anodd ac ansefydlog hefyd hefo nifer o weithwyr llawrydd wedi bod allan o waith. Mae’r diwydiant yng Ngogledd Cymru yn ffynnu, hefo nifer o gwmnïau cynhenid yn creu gwaith arbennig law yn llaw gyda’r BBC ac S4C. ‘Da ni hefyd yn ffodus iawn fod lleoliadau godidog y gogledd yn denu cwmnïau mwya’r byd i’r ardal hefo HBO a Universal yn manteisio ar y prydferthwch naturiol lleol. Does dim rhaid i unrhyw unigolyn fynd i ffwrdd o’r ardal i ennill gwaith os mai adra yw ei dewis delfrydol. 

    Ydy recriwtio a chyflogi pobl lleol yn bwysig i chi? Pam? 

    Mae recriwtio a chyflogi pobl leol yn bwysig iawn i ni. Mae’n diwydiant ni yn ddibynnol ar bobl. Denu pobl at ei gilydd er mwyn plethu sgiliau gwahanol a chreu rhaglenni sy’n ddrych i’r ddynol natur sy’n addysgu a diddanu. Ma’r gymuned leol yn rhan annatod o ddod â’r gwaith i’r sgrin  

    Oes cyswllt rhwng y Gymraeg ac economi yn eich barn chi? Esboniwch. 

    Mae yna gyswllt cryf iawn rhwng y Gymraeg a’r economi. Da ni yma yn ddibynnol iawn ar yr iaith wrth gynhyrchu Rownd a Rownd. Mae dros 100 o siaradwyr Cymraeg yn gweithio ar y rhaglen ac yn sgil hyn yn cael cryn argraff ar yr economi leol. 

    Oes galw am wasanaeth ddwyieithog yn y byd ffilm a theledu? 

    Mae’r Gymraeg yn bwysig iawn i ni. Pan ddaw cleientiaid di-Gymraeg atom ma’n holl bwysig fod nhw yn medru cyfathrebu negeseuon pwysig i’r gymuned leol. Dogfennau diogelwch, mesuriadau cau ffordd a chyfathrebu cyfleoedd gwaith yn holl bwysig i unrhyw gynhyrchiad sydd yn ceisio sefydlu ei hunain yma. Mae gwasanaeth dwyieithog yn hanfodol i weithgaredd y byd ffilm a theledu yng Nghymru. 

    Beth yw’ch cynlluniau at y dyfodol? 

    Ein gobaith yw parhau gyda’r gwaith hollbwysig yma yn Aria. Cynhyrchu rhaglenni o safon yn yr iaith Gymraeg a denu mwy o gynyrchiadau rhyngwladol i’r ardal. Mae ein partneriaeth hefo Academi Sgrin Cymru wedi dod â bron i 1000 o blant lleol i’r adeilad i gael profiadau arbennig sy’n cynnwys teithiau a gweithdai. Profiadau sydd wir yn rhoi blas ar y diwydiant i sbarduno'r genhedlaeth nesa. Mae adnodd fel Aria yn ffagl creadigrwydd yma yng Nghymru, a dymunwn barhau i ddod a gwaith a chyfleoedd i’r ardal am flynyddoedd maith. 

  • Tipyn o ‘býz’ ar yr ynys wrth i Gwenyn Môn ehangu’u darpariaeth hyd yn oed ymhellach… 

    Mae’r busnes eisoes wedi derbyn achrediad Cynnig Cymraeg a gweithredu’n ddwyieithog, a diolch i fuddsoddiad Rhaglen ARFOR trwy brosiect Cymunedau Mentrus Cyngor Môn, mae mwy o adnoddau cyfrwng Cymraeg ar y waith, gan gynnwys hyfforddiant ar gadw gwenyn. Dyma oedd gan Dafydd y perchennog i’w ddweud wrth Bwrlwm ARFOR am yr hyn sydd ar y gweill… 

    Pa mor bwysig yw cynnig gwasanaeth ddwyieithog wrth addysgu pobl ar gadw gwenyn? 

    Caiff y Gymraeg a dwyieithrwydd eu gweld fel yr hyn sy’n arferol yng ngwaith a gwasanaethau Gwenyn Môn. Mae ein gweithgareddau busnes yn cyfleu ymdeimlad o Gymreictod, nid yn unig yn ein defnydd o'r Gymraeg mewn gohebiaeth, marchnata, cyfryngau cymdeithasol a chyflwyno digwyddiadau, ond hefyd yn y tirwedd y mae cyfranogwyr yn ymgolli ynddi ar ein digwyddiadau a'r cysylltiad â'r dirwedd honno y maent yn mynd â hi gyda nhw pan fyddant yn prynu ein mêl. 

    Mae ein digwyddiadau, cynhyrchu mêl a gwarchodaeth amgylcheddol yn hyrwyddo ein treftadaeth ddiwylliannol ac yn cyfrannu at ecosystem iach ac amrywiaeth biolegol. Byddwn yn hyrwyddo digwyddiadau gydag apêl leol a chymunedol  gyda naws Gymreig e.e. ein digwyddiadau Gardd Agored a’n Gŵyl Mabsant leol. Byddwn yn cefnogi digwyddiadau codi arian ar gyfer digwyddiadau diwylliannol Cymraeg fel apel Bro Esceifiog at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar Ynys Môn yn 2026. O dro i gro byddwn yn cyfrannu erthyglau at bapurau bro, rhoi sgyrsiau i grwpiau cymunedol fel y WI, Clwb Rotari a chymdeithasau cadw gwenyn ac yn cyfrannu at raglenni radio a theledu gan gynnwys cyfres S4C "Gwyliau Gartre" a Heno, eitemau newyddion ar BBC Wales a  sgwrs ar Bore Cothi, a Rhaglen Aled Hughes ar  Radio Cymru. Mae hyn yn annog ymdeimlad o ymgysylltu, ac ymdeimlad o gymuned a chyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn naturiol bob dydd.   

     

    Beth sy’n gwneud ‘gofod Cymraeg’ llwyddiannus yn eich barn chi? 

    Mae gofod Cymraeg llwyddiannus yn leoliad ble caiff y Gymraeg a dwyieithrwydd eu gweld fel yr hyn sy’n arferol a’r ddwy iaith i’w gweld ochr yn ochr gyda’r un pwysigrwydd. Gall hyn fod yn leoliad go iawn neu’n leoliad rhithiol ar wefan neu gyfryngau cymdeithasol. Yn ogystal â’n gofod Cymraeg sefydlog yma yn Gwenyn Môn, o dro i dro byddwn ym mynd â’n gofod Cymraeg at y bobl e.e. drwy gyflwyno sgwrs ar gadw gwenyn i gymdeithasau a chlybiau neu drwy gynnal stondin gwerthu mêl mewn ffeiriau Nadolig mewn neuaddau pentref neu Gwyl Mabsant yn Llanddaniel Fab neu ddigwyddiad “dewch i  gyfarfod y gwenynwyr” yng Ngerddi Cudd Plas Cadnant neu Erddi Bodnant.  

    Ydy recriwtio pobl lleol yn bwysig i chi? Pam? 

    Credaf bod recriwtio pobl lleol yn hanfodol er mwyn lleihau di-boblogi o gefn gwlad Ynys Môn a’r dirywiad mewn niferoedd siaradwyr Cymraeg ar yr ynys.  

    Beth yw’ch cynlluniau at y dyfodol? 

    Mae Gwenyn Môn eisoes yn gweithio tuag at gyflawni sero net a datblygiad cynaliadwy. Mae cynaeafu mêl yn broses gynaliadwy nad yw'n dibynnu ar echdynnu adnoddau cyfyngedig o'r amgylchedd. Ar ben hynny, nid yw'n cynhyrchu gwastraff na gwarged.  Mae ein mêl yn cael ei werthu mewn jariau gwydr y gellir eu hailgylchu yn unig ac rydym yn dibynnu ar gadwyni cyflenwi byr, lleol gan gynnwys marchnadoedd crefftwyr lleol i leihau milltiroedd bwyd a'n hôl troed carbon. Cynlluniwn i gynyddu ein cynnyrch o fêl yn flynyddol er mwyn gallu diwallu’r galw cynyddol amdano gan fanwerthwyr a chyfanwerthwyr yn ein cadwyni cyflenwi bwyd lleol. Yn ogystal bwriadwn ddatblygu cynhyrchion newydd sy’n cynnwys mêl mewn cydweithrediad â Phrosiect Helix yn y Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni a hefyd creu amrywiaeth yn ein mêl drwy hau cnydau yn benodol i’r gwenyn i ddylanwadu ar flas y mêl. 

    Bwriada Gwenyn Môn barhau i fynd o nerth i nerth fel prif ddarparwr hyfforddiant a phrofiadau cadw gwenyn yng Nghymru. I’r trywydd yma, rydym wedi buddsoddi mewn rhagor o siwtiau cadw gwenyn o amryfal feintiau; peiriannau ar gyfer cynnal a chadw’r safle; ail ystafell hyfforddi a chysgodle clyd yn y wenynfa hyfforddi fel na fydd tywydd anffafriol yn tarfu ar ein gweithgareddau.  

    Mwy am Gwenyn Môn: Hafan Gwenyn Mon

  • Sesiynau a staff newydd i Sensori Sara — diolch i fuddsoddiad Cymunedau Mentrus Môn 

    Mae Sensori Sara eisoes yn adnabyddus ar yr ynys am greu cynnwys Cymraeg ar gyfer dosbarthiadau synhwyraidd babanod newydd. Nawr, mae ganddi amrywiaeth o sesiynau newydd i’w cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg a chynlluniau cyffrous ar y gweill i fuddio plant a’u rhieni… 

    Pa mor bwysig yw mynediad at ddeunydd Cymraeg mewn dosbarthiadau synhwyraidd yn eich barn chi? 

    Mae mynediad at ddeunydd Cymraeg yn hollbwysig mewn sesiynau sensori dwyieithog. Cynhelir y sesiynau’n bennaf yn Gymraeg gyda chaneuon Cymraeg sy’n llawn geirfa amrywiol, ail-adrodd a drama. Mae hyn yn sail iaith y plant yn y dyfodol. Mae CD Seiniau Sensori Sara o fudd mawr yn hyn gyda’r rhieni’n gallu canu’r caneuon adref gyda’u babis/plant. 

    Pa mor bwysig yw’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg i lwyddiant eich busnes? 

    Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i lwyddiant busnes lle mai’r iaith Gymraeg yw un o’r prif amcanion. Mae’n helpu i adeiladu perthynas gref gyda rhieni sydd yn gwerthfawrogi ein bod yn cynnig sesiynau yn eu mamiaith. Mae hefyd cyfle i rieni sy’n dysgu Cymraeg ehangu eu geirfa drwy ddysgu’r caneuon a’u canu i’w babis/plant. 

    Beth yw’ch cynlluniau at y dyfodol? 

    Yn dilyn cael y grant, byddwn yn gallu ychwanegu sesiynau amrywiol – Bybl Babi, Bwrlwm Babi a Sbri Sensori.  Mae cyflogi aelod newydd o staff wedi’n galluogi i gychwyn mewn lleoliadau newydd ac i gynnal sesiynau ychwanegol i gylchoedd meithrin a grwpiau Ti a Fi. 

    Pam sefydlu busnes ym Môn? 

    Mae fy nghysylltiadau yn gryf ym Môn gyda gofyn am y sesiynau sensori yn cynyddu!

  • Pethau mawr ar y gweill i Y Pethau Bychain — diolch i brosiect Cymunedau Mentrus ARFOR… 

    Derbyniodd Y Pethau Bychain fuddsoddiad i sefydlu ysgol goedwig a chynnal gweithdai a sesiynau lles yn yr awyr agored trwy gyfrwng y Gymraeg — sy’n hyrwyddo a dathlu traddodiadau a hunaniaeth y werin ar yr un pryd.  

    Mae Bwrlwm ARFOR wedi dal i fyny gyda Nia Jewell a Nia Dooley, Sylfaenwyr Y Pethau Bychain, i weld sut mae pethau’n mynd rhagddynt ers derbyn y buddsoddiad. 

     

    Pa mor bwysig yw cynnig gwasanaeth ddwyieithog yn yr awyr agored, yn eich barn chi? 

    Mae gallu hwyluso sesiynau awyr agored yn ddwyieithog neu yn Gymraeg yn unig yn hynod bwysig i ni fel busnes. Gan weithio’n agos gyda’r Mentrau Iaith, gwyddom fod cynnal y defnydd o enwau Cymraeg ar fywyd gwyllt o’r pwys mwyaf gan fod hyn wedi bod ar drai ers blynyddoedd lawer. Mae'n hanfodol ein bod yn gallu siarad â phobl leol yn eu mamiaith a hefyd darparu amgylchedd ysgogol a chyffrous i ddysgwyr y Gymraeg ffynnu. Mae cefnogi siaradwyr newydd i ddefnyddio’r Gymraeg tra allan yn yr awyr agored yn rhywbeth yr ydym yn ei annog yn frwd. 

      

    Sut ydych chi’n sicrhau dathlu a hyrwyddo traddodiadau a hunaniaeth werin Cymru yn eich gwaith? 

    Lles – Natur – Cymru yw’r ymbarel rydym yn gweithredu oddi tani. Rydym yn frwd dros warchod ein treftadaeth Gymreig, yn enwedig ein celfyddydau creadigol, adrodd straeon a chwedlau a cadw’r thraddodiadau Celtaidd yn fyw. Rydym yn darparu gweithdai amrywiol, wedi’u plethu â’r newid yn y tymhorau ac wedi’u cyfoethogi gan y traddodiadau blynyddol a fyddai wedi bod yn rhan o fywyd Cymreig flynyddoedd yn ôl megis Calan Mai, dathliadau’r cynhaeaf a’r Ŵyl. 

    Yn flaenorol rydym wedi cynnal sesiynau Calan Gaeaf gyda stwmp naw rhyw, gemau a chwedlau am yr Hwch Ddu Gwta, Ladi Wen a’r Gwyllgi. Rydym wedi gweithio gydag ysgolion a chymunedau i ddysgu am y Fari Lwyd, creu torchau Nadolig naturiol a chalennig. Mae dathlu a hyrwyddo traddodiadau a hunaniaeth werin Cymru yn elfen bwysig iawn o’n gwaith. 

     

    Ydy recriwtio pobl lleol yn bwysig i chi? Pam? 

      

    Ar hyn o bryd nid oes capasiti i recriwtio aelodau newydd o staff ond rydym yn awyddus i groesawu gwirfoddolwyr lleol a hoffai gymryd rhan mewn gweithdai a chynnal a chadw'r safle. 

     

    Beth yw’ch cynlluniau at y dyfodol? 

    Mae gennym ychydig mwy o sesiynau Lles y Gaeaf wedi’u cynllunio ar gyfer cymuned Bethesda, mae’r rhain yn sesiynau llesiant yn y goedwig i dadau sy’n gobeithio darparu ymdeimlad o gymuned a pherthyn tra’n cynnig arfau cynnil ond ymarferol i hybu iechyd meddwl tadol. Mae’r sesiynau yma ar y cyd â Aled o ‘Sut mae dad? How’s dad?’ a gyda chefnogaeth Cyngor Gwynedd a Mudiad Meithrin.  

    Rydym yn y broses o drefnu cyrsiau byr i gynnig i fyfyrwyr Prifysgol Bangor o'r safle coetir a byddwn yn cynnig hyfforddiant i addysgwyr mis Mawrth am bwysigrwydd ac effaith cysylltedd natur ar les. 

    Mae diploma mewn ysgolion sy’n wybodus am drawma gennym erbyn hyn ac buom yn mynychu wythnos o hyfforddiant Llesiant ym myd Natur ym Modfari mis Medi. Mae’r gwaith cwrs bron a’i orffen erbyn hyn, gyda'r gobaith bydd y cymhwyster yma drwy Agored Cymru a’r diploma yn galluogi i ni gefnogi lles fwy o bobol, yn well. 

    I ddysgu mwy am waith Y Pethau Bychain, ewch i: cymraeg | Y Pethau Bychain 

Straeon Llwyddiant…

  • Sefydlwyd Tetrim Teas, Trimsaran, yn 2021 — gan ddechrau marchnata’u cynnyrch yn 2023. Dyma bum munud gyda Kelly Stockwell, Rheolwr Busnes Tetrim Teas, sydd wedi byw yn Sir Gâr ar hyd ei hoes.

    Beth mae’r cwmni yn ei gynnig? Ma’ Tetrim Teas yn fusnes teuluol dielw wedi'i leoli yn Sir Gâr.  Rydym yn crefftio te lles wedi'i lapio â phecynnu cynaliadwy gan defnyddio cynhwysion naturiol, lleol sydd ag amrywiaeth o fuddion iechyd (gyda chefnogaeth ymchwil gyda Phrifysgol Aberystwyth). 

    Beth yw eich hoff beth am redeg busnes? Cwrdd â phobl newydd a hefyd rhoi cyfleoedd gwaith i bobl o fewn y cwmni ac yng Nghymru. 

    Beth yw eich hoff fusnes arall yn yr ardal, a pham?  Ni'n cefnogi Plas Y Sarn (Canolfan Hamdden Trimsaran) gan ei fod yn lle i dod a'r gymuned at ei gilydd.

    Sut ydych chi’n integreiddio’r Gymraeg i’ch busnes? Rydym yn hyrwyddo defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle a hefyd yn cynnig gwersi ar-lein i aelodau'r tîm a hoffai ddysgu.

    ‘Best seller’ eich cwmni? Lion's Mane Mushroom Brightening Tea with Welsh Heritage Apple & Cinnamon. 

    Beth yw’r her mwyaf i fusnesau’r ardal ar hyn o bryd, yn eich barn chi?  Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn rhwystr i weithwyr ac felly i fusnesau yn yr ardal.

    I ddysgu mwy am Tetrim Teas, ewch i: tetrimteas.cymru/ 

  • Beth sy’n digwydd os ydych chi’n cyfuno llechi Cymreig, resin a thalent am grefftio? Cynnyrch arbennig Llechi Ronw Slate, wrth gwrs! Sefydlwyd y busnes yn 2020 ym Mhontgarreg, Ceredigion — yn cynnig darnau datganiad sydd yn aml wedi’u personoli. Daliodd Bwrlwm i fyny â’r crefftwr tu ôl i’r busnes, Dafydd… 

    Beth yw eich cyngor i rywun sy’n meddwl cychwyn busnes?

    1. Gwnewch yn siwr fod digon o ofyn am eich cynnyrch / gwasanaeth.

    2. Peidiwch a phoeni os ydych yn bwriadu datblygu’ch busnes mewn camau bach. Busnes bach rhan amser yw Llechi Ronw, ac mae hynny'n fy siwtio'n dda ar hyn o bryd. 

    3. Mae ychwanegu stori yn helpu i wneud eich busnes yn un unigryw ac yn ychwanegu cymeriad.

     

    Ble ydych chi’n hoffi dianc i, pan fyddwch chi’n cymryd saib o’r gwaith?

    Cwmtydu neu Ynys Lochtyn.

     

    Oes gennych unrhyw gyngor i rywun sy’n meddwl symud ‘nôl i’r ardal?

    Sicrhewch eich bod chi'n barod am ffordd gwell o fyw. Mae'r gorllewin yn wahanol iawn i fywyd trefol felly mae'n dipyn o sioc i'r system ar y cychwyn. Ond unwaith rydych chi'n ‘nôl ar eich traed, gwnewch chi fyth edrych ‘nôl. 

     

    Sut ydych chi’n integreiddio’r Gymraeg i’ch busnes?

    Mae Llechi Ronw yn sgrechen ‘Cymraeg’ fel brand a thrwy'r cynnyrch. Hen teils llechi Cymraeg o fy hen gartref (Ronw) yw beth dwi'n defnyddio, felly mae ‘na elfen o hanes a diwylliant Cymru yn fy ngwaith. Dwi'n ffeindio fod digwyddiadau crefft yng Nghymru â diffyg Cymraeg weithiau, felly mae’n bwysig i fi wneud yn siwr ‘mod i'n dechrau fy sgyrsiau'n Gymraeg, a bod yn gefnogol o'r rhai sy'n dysgu ac eisiau magu hyder. 

     

    ‘Best seller’ eich cwmni?
    Cymru mewn fframyn llechen. Dwi'n cynnig opsiwn o bersonoli’r darn trwy gynnwys calon dros ardalbenodol. Mae fy arwyddon tai 'pop art' hefyd yn boblogaidd.

     

    Ydych chi wedi cael mynediad at unrhyw adnoddau i helpu’ch busnes ar y daith?

    Eithaf tipyn o sesiynau, gweithdai, cyrsiau a theithau i ddweud y gwir. 

    Cefais brofiad anhygoel o fod yn rhan o elfen Mentro Llwyddo'n Lleol lle roedd grŵp o unigolion sydd âdiddordeb yn y byd busnes yn cwrdd yn wythnosol i drafod eu busnes gydag arbenigwyr. Cyfle da i wneud ffrindiau, cysylltiadau ac i ddatblygu hyder.


    Fe ges i hefyd gyfle i ymuno gyda prosiect stondin gydag Antur Cymru lle roeddwn i'n cael rhedeg y busnes o safle siop. Roedd hyn yn gyfle da i fi ddod i ‘nabod y ffordd gorau o werthu fy nghynnyrch. 
    Cefais hefyd brofiad anhygoel eleni o fynychu taith Sbarc Ceredigion lle wnaeth grŵp ohonom gwrdd dros 3 penwythnos i wneud gweithdai ac ymweld â busnesau lleol i ddysgu sut ddechreuon nhw a sut maen nhw'n datblygu. Roedd un penwythnos draw yng Ngwlad yr Ia — cyfle arbennig i weld sut mae busnesau ac unigolion yn datblygu i llwyddo.

    Manylion cyswllt y busnes:

    https://www.ronwslate.com/

    Instagram & Facebook

    llechironwslate@outlook.com

  • Cylchgrawn gan fenywod, am fenywod ac i fenywod yn bennaf yw Cylchgrawn Cara — gyda Meinir ac Efa Edwards yn cyhoeddi 80 tudalen, llawn lliw a sglein, 3 gwaith y flwyddyn (gwanwyn, haf a gaeaf). 

    Sefydlwyd yn 2019 gan Meinir ac Efa, cyfarwyddwyr a golygyddion Cara — yn Llandre ger Bow Street yng Ngheredigion. Dyma oedd ganddynt i’w ddweud am y daith hyd yma...

    Pam sefydlu’r cwmni?

    Tîm mam a merch ydyn ni, a sylweddolon ni bod bwlch yn y farchnad am gylchgrawn lifestyle Cymraeg i fenywod. Rydyn ni eisiau cynnig llwyfan i leisiau merched o bob oed ac o bob maes. Mae ganddon ni gyfranwyr sefydlog, ac rydyn ni’n rhoi cyfle i sgwenwyr newydd gael eu gwaith wedi ei gyhoeddi mewn print. Mae pob rhifyn yn cynnwys erthyglau ar iechyd, bwyd a diod, teithio dramor ac o fewn Cymru, materion cyfoes, steilio cartref, ffasiwn a cholur, y sêr, y celfyddydau, pynciau tabŵ, y celfyddydau, crefftau, a llawer mwy! 

    Beth yw eich hoff beth am redeg busnes?

    Roedd rhedeg busnes yn hollol newydd i ni’n dwy, ac rydyn ni’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd! Mae’n braf gallu rhoi platfform a dod i adnabod yr holl fenywod dewr, eangfrydig ac ysbrydoledig sydd gyda ni yng Nghymru. Rydyn ni hefyd yn falch iawn o’r ffaith ein bod ni’n talu ffioedd teilwng i’n cyfranwyr, nifer ohonyn nhw’n gweithio’n llawrydd. 

    Mae mynd allan i gwrdd â’n darllenwyr, cael stondin mewn gwyliau a mynd i siarad â gwahanol gymdeithasau, yn rhoi pleser mawr i ni. Ac mae geiriau o anogaeth yn mynd yn bell! 

    Ond mae’n her, gyda chostau papur, argraffu a dosbarthu wedi cynyddu, a chyllid busnesau ar gyfer hysbysebu yn brin. Ac er bod miloedd o dilynwyr gyda Cara ar Facebook ac Instagram mae’n anodd troi’r rheini yn brynwyr. 

    Pa mor bwysig yw’r iaith Gymraeg i’ch busnes a pham?

    Mae’r iaith Gymraeg yn greiddiol i Cara. Ein bwriad yw cyhoeddi deunydd darllen Cymraeg amrywiol, hawdd ei ddarllen, a chael mwy o bobl i ddarllen Cymraeg – dyna yw holl ethos Cara o’r cychwyn. Mae pawb sydd ynghlwm â’r cylchgrawn – cyfranwyr, golygyddion, argraffwyr, dylunwyr, artistiaid, sgwenwyr – yn siarad Cymraeg, a Chymraeg yw’r postiadau ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i gyd.

    Rydyn ni eisiau hyrwyddo menywod sy’n rhedeg busnesau, siopau, sefydliadau, artistiaid, crefftwyr, sy’n gweithio ac yn hyrwyddo’u gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg, a hefyd datblygu talent newydd o ran sgwennu newyddiadurol, sgwennu creadigol a ffeithiol. 

    Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi’r gyfrol gyntaf yn y Gymraeg erioed sy’n trafod y menopos - Menopositif: Cara dy Hun drwy’r Newid Mawr.

    A allai’ch busnes gwneud mwy o ran dwyieithrwydd, yn eich barn chi?

    Mae Cara yn arloesol yn y ffaith ein bod yn cyhoeddi erthyglau ar bynciau sydd ddim wedi cael eu trafod yn eang mewn print Cymraeg o’r blaen, ac mae’r eirfa Gymraeg yn gallu bod yn brin, e.e. pensaernïaeth, ffasiwn, colur. Rydyn ni eisiau dod â’r eirfa Gymraeg yma yn fwy cyffredin a’u defnyddio fwyfwy. Rydyn ni, er enghraifft, yn rhoi gair Cymraeg yn ein ryseitiau bwyd, efallai sy’n anghyfarwydd i rai, ac yna’n rhoi’r gair Saesneg mewn cromfachau ar ôl y gair Cymraeg.

     

    Yn ddiweddar, mae Cara yn rhoi mwy o ffocws ar siaradwyr Cymraeg newydd ac rydyn ni’n bwriadu ehangu ein darpariaeth ar-lein trwy gynnig rhestr eirfa ddwyieithog yn benodol i’r rhai sydd ddim yn hyderus yn eu Cymraeg. 

    Beth sydd ar y gweill ar gyfer y busnes?

    Rydyn ni’n 5 oed eleni, ac i ddathlu fe wnaethon ni gynnal Ffair Fai Cara lwyddiannus yn y Bandstand ar brom Aberystwyth, a gwahodd 14 o fenywod busnes i ddod i werthu eu cynnyrch. Rydyn ni’n ystyried cynnal digwyddiad tebyg yn rheolaidd. 

    Hoffwn barhau i gyhoeddi cylchgrawn o safon uchel, o ran cynnwys, iaith a diwyg; datblygu’r blog ar y wefan, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yn hyn; mynychu gwyliau dros y flwyddyn sydd i ddod; hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o’r cylchgrawn drwy farchnata a hysbysebu; cyhoeddi llyfrau a chynhyrchu deunyddiau eraill Cara; datblygu presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol; cryfhau’r brand, fel bod y logo’n dod yn fwy cyfarwydd a gweladwy. 

    Ydych chi wedi cael mynediad at unrhyw adnoddau i helpu’ch busnes ar y daith?

    Rydyn ni’n derbyn grant cylchgronau gan Gyngor Llyfrau Cymru sy’n helpu gyda’r costau argraffu a dylunio. Roedd Busnes Cymru yn dda iawn am roi cyngor ymarferol cyn dechrau sefydlu’r cylchgrawn.  

    Manylion cyswllt y busnes: 

    Gwefan – www.cara.cymru

    E-bost – cylchgrawncara@gmail.com

    Facebook / Instagram / Threads / X – @cylchgrawncara

  • Ani James yw perchennog a sylfaenydd busnes ani-bendod — siop ddillad, anrhegion a stationery Cymraeg yn Aberystwyth. Sefydlwyd yn 2018, ac mae’n deg i ddweud bod y busnes wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Dyme beth oedd gan Ani i’w dweud...

    Manylion cyswllt y busnes:

    Ebost: ani-bendod@hotmail.com

    Cyfryngau cymdeithasol: Instagram, Facebook, TikTok: @ani-bendod

    Gwefan: ani-bendod.com/ 

    Pam sefydlu’r cwmni? 

    Dechrau fel hobi bach wnaeth e yn hytrach na 'busnes'. Wastad wedi joio elfen greadigol ers yn fach ac yn ysu am gael creu pethau creadigol ar ol bod yn y brifysgol. Dechreuais i arbrofi gydag ambell i gyfrwng megis inc a ffelt, arbrofi, dechrau creu a mynd ag ambell i stondin fan hyn a fan draw i ddigwyddiadau lleol.

    Pam sefydlu’r cwmni yng Ngheredigion yn benodol? 

    Dyma ble ddechreuodd y busnes, adre. Mi roedd bobl leol yn gefnogol iawn ac eisiau gweld busnes bach yn llwyddo. Mae'r iaith yn ran annatod o'r busnes felly mi roedd Ceredigion yn benthyg ei hun yn naturiol i hyn. Mi roedd tyfiant y busnes yn organic iawn, ac wedi bellach symud ar lein ac yn buddio o gwsmeriaid ledled Cymru gyfan a thu hwnt bellach.

    Pa mor bwysig yw’r iaith Gymraeg i’ch busnes a pham? 

    Holl bwysig, does dim ani-bendod heb yr iaith Gymraeg. Dwi'n falch iawn o allu dweud hynny, mae'n rhan hollol naturiol o'r busnes hefyd, a dyna mae pobl yn mwynhau gweld. Dwi hefyd yn falch ofnadwy bod yna ganran uchel o ddysgwyr Cymraeg yn dilyn a chefnogi'r busnes ac yn dweud eu bod yn cael budd o ddysgu'r iaith mewn ffordd wahanol. Mae cefnogi ein dysgwyr yr un mor bwysig â chefnogi ein siaradwyr Cymraeg.

    Beth sydd ar y gweill ar gyfer y busnes? 

    Rydym ar hyn o bryd yn adeiladu HQ newydd sbon yn Lledrod, dyma ble bydd cartref newydd y busnes. Mi fydd yn adeilad sefydlog i ni ymartrefu iddo a seilio ein gwreiddiau yma yng Ngheredigion, gan gwneud y mwya o'n cynefin gan hefyd fanteisio ar dechnoleg a'r gallu i werthu dros Gymru gyfan, a hynny wrth weithio o'r wlad.

    Beth yw’r gwers mwyaf yr ydych wedi ei ddysgu hyd yma, gyda’ch busnes? 

    Mae yna wers wahanol bob wythnos, rwy'n dysgu o hyd a ddim yn ofn gwneud camgymeriadau na chyfaddef pan nad yw rhywbeth cweit yn gweithio allan. Ond, y peth dwi wedi dysgu mwyaf yw gwrando ar y teimlad bach na tu fewn, ma hwnnw fel arfer yn iawn am lot o bethe.

  • “Credaf fod yna farchnad sylweddol i’r busnes drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg…”

    1. Beth yw Gwenyn Môn? Cwmni sy’n cynnig profiadau, digwyddiadau a hyfforddiant pwrpasol yn ymwneud â chadw Gwenyn.

    2. Ym mha ardal ydych chi? Llanddaniel Fab, Ynys Môn.

    3. Beth yw’r hanes tu ôl i sefydlu’r cwmni? Roeddwn wedi syrffedu bod yn gyflogedig mewn gyrfa ym myd addysg ac fel gwyddonydd ymchwil cyn hynny. Roedd cychwyn ein busnes ein hunain yn gyfle i gael rhyddid creadigol ac i ddarganfod byd newydd heb lyffethair.

    4. Pam dewis cychwyn busnes yn Llanddaniel Fab? Dwi wedi bod yn byw yn Trefnant Bach, sef tyddyn ar gyrion Llanddaniel ers dros 10 mlynedd bellach. Mae o’n le da i’r gwenyn hel neithdar a phaill ac mae yna ddigon o le yma i ddatblygu’r busnes.

    5. Beth yw eich hoff beth am gael busnes yn yr ardal? Mae yna farchnad barod yma yn lleol ac efo’r ymwelwyr ar gyfer ein cyrsiau, profiadau a’r cynnyrch.

    6. Ydych chi’n cyflogi staff? Ar hyn o bryd mae’r cwmni yn cyflogi’r ddau ohonom ac yn cyflogi un arall yn achlysurol.

    7. Be’ mae’r cwmni yn gynnig i’r ardal leol? Rwy’n cael llawer o ymholiadau gan fusnesau lleol ynglŷn â gwerthu mêl a gobeithiaf allu diwallu’r galw yma yn y dyfodol. Rydym hefyd yn cydweithio efo cwmni Curious Cymru sy’n hybu gweithgareddau a phrofiadau lleol, a grŵp o dyddynwyr eraill ar facebook sy’n datblygu eu busnesau.

    8. Pa mor bwysig yw’r iaith Gymraeg i’ch busnes? Credaf fod yna farchnad sylweddol i’r busnes drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Prin iawn fu’r ymholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg hyd yma ond credaf, efo’r marchnata cywir y byddwn yn gallu tapio i’r farchnad hon cyn hir.

    9. Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg yn y busnes? Dwi wedi dylunio ac argraffu cyfres o faneri roler (roller banners) dwyieithog, efo’r Gymraeg yn gyntaf, ar gyfer cyflwyno gwybodaeth. Cânt eu defnyddio yma wrth i mi gyflwyno cyrsiau a phrofiadau ond hefyd gallaf eu cludo yn hawdd i roi cyflwyniad ar gadw gwenyn i fudiadau a chymdeithasau. Mae’r eirfa Gymraeg megis “gwenyn” a “mêl” yn aml yn ennyn chwilfrydedd ymwelwyr di-Gymraeg ac yn codi eu hymwybyddiaeth o’r Gymraeg. Byddaf hefyd yn hysbysebu ac yn rhannu gwybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg ar dudalennau ein gwefan a facebook.

    10. Beth yw’ch hoff beth am redeg Gwenyn Môn? Rwy’n mwynhau dysgu sgiliau newydd fel marchnata, dylunio gwefan a gwneud y gorau o gyfryngau cymdeithasol. Byddaf hefyd yn cael boddhad eithriadol o addysgu’r cyhoedd am bwysigrwydd gwenyn a pheillwyr ac o weld ymateb ac adborth ein cleientiaid.

    11. Lle yw’ch hoff le chi ym Môn? Unrhyw le ar hyd Llwybr arfordir Môn. Dwi’n hoff iawn o gerdded ac mae’r llwybr yn caniatáu i mi wneud teithiau o unrhyw hyd, yn dibynnu faint o amser rhydd sydd gen i. Dwi’n mwynhau bod yr olygfa yn newid rownd bob cornel a’r llonyddwch a’r tawelwch sydd i’w gael yn y rhannau mwy diarffordd.

    12. Beth sy’n ennyn balchder yn eich ardal? Rwy’n falch o’r cyfoeth o enwau lleoedd sydd gennym ar Ynys Môn ac yn ymhyfrydu ynddynt wrth gerdded ac astudio mapiau o’r ardal.

    13. Unrhyw gyngor i rywun sy’n meddwl cychwyn busnes? Peidiwch ag oedi, ewch amdani! Ond gwnewch y gorau o bob cyngor a chefnogaeth sydd ar gael e.e. gan Menter Môn, Arfor,Busnes Cymru a Prime Cymru.

    14. Ac oes gennych chi gyngor i rywun sy’n meddwl symud i’r ardal neu symud yn ôl i’r ardal? Dysgwch siarad Cymraeg, sicrhewch fod eich plant yn rhugl yn y Gymraeg a byddwch yn rhan o’ch cymdeithas leol.

    15. Os oes rhywun eisiau mwy o wybodaeth beth yw’r ffordd orau i gysylltu? Y wefan neu dafydd@angleseybees.co.uk

Bocs ARFOR 💬

Bob wythnos, fyddwn ni'n clywed gan fusnesau ar draws diwydiannau gwahanol — yn son wrth Owain Llyr am eu defnydd o'r Gymraeg.

Gwyliwch gyfweliad llawn Castell Howell yma! ⬅️

Bocs ARFOR : Dolydd

Nesaf, mae Owain Llyr yn ymweld â garej Dolydd rhwng Caernarfon a Groeslon ar daith Bocs ARFOR.

It's fair to say this week's business has an impressive story behind their use of the Welsh language 👏

Bocs ARFOR yn MSParc

Mae 75% o weithlu Dafydd Hardy yn siarad Cymraeg. But does speaking Welsh really matter in estate agency?

bocs ARFOR:
Cymdeithas Gwenyn Cymraeg Ceredigion

Wyddoch chi fod cymdeithas gwenyn cyfrwng Cymraeg yn bodoli? Pa ots am hynny, tybed? 🐝 Y stori llawn isod…

Bocs ARFOR: Ydych chi bob tro'n gwneud yr ymdrech i ddysgu iaith y wlad ry'ch chi'n ymweld â hi, tybed?


C.L. Jones Timber & Builders' Merchants recognises the importance of a Welsh language service for its customers in Wales, and how this should be mirrored elsewhere 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Clwb Ffermwyr Ifanc

Fel un o fudiadau blaengar Cymru, mae Clwb Ffermwyr Ifanc yn hanfodol i ddyfodol pobl ifanc cefn gwlad, wrth gynnig profiadau, datblygu sgiliau a chefnogi dyheadau i'r dyfodol.

Last week at the Royal Welsh Show, we unveiled a special project in partnership with Wales' Young Farmers Club — shining a light on just some of its members' contributions to the local economy, in Cymraeg.

Bocs ARFOR: Prawf bod y Gymraeg yn caniatau mwy o gyfleoedd cyflogaeth?

Being a Welsh speaker is a must for this business, located within Carmarthen market, when recruiting new staff — with the owner herself admitting she feels she's missing out by not siarad Cymraeg.