Digwyddiadau Bwrlwm ARFOR
Mae ARFOR yn fwrlwm llythrennol o weithgareddau a digwyddiadau — i unigolion, busnesau a theuluoedd. Yma, cewch bori’r holl ddigwyddiadau sydd gennym ar y gweill. O Fforwm Bwrlwm — cyfle i rannu’ch barn a’ch syniadau, ac i glywed gan fusnesau ARFOR — i Hac Busnes, cyfle i helpu busnes go iawn yn ARFOR i wneud y mwyaf o’r iaith Gymraeg yn y gweithle.
Eisiau clywed mwy am ddigwyddiadau a diweddariadau ARFOR yn syth i’ch cyfeiriad e-bost? Tanysgrifiwch yma, neu ddilynwch ni ar Facebook, X ac Instagram, ac ymunwch â’r sgwrs ar ein grŵp Facebook.
Hoffai Bwrlwm ARFOR eich gwahodd i Bangor AI — digwyddiad arloesol a fydd yn eich galluogi i wneud y mwyaf o ddeallusrwydd artiffisial (‘AI’) er budd y Gymraeg ac economi ARFOR.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Gwener 14 Mawrth, 9:30yb – 12:30yp, yn Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor — ble fyddwn yn clywed gan arbenigwyr ym maes AI yng Nghymru i rannu tips ar sut y gallwch chi, eich gweithle neu’ch busnes wneud y mwyaf o AI a thechnoleg cyfrwng Cymraeg.
Am fanylion llawn, ac i archebu’ch lle am ddim, cliciwch yma (cyn 12 Mawrth os gwelwch yn dda).
Bangor AI – rhaglen y digwyddiad
➡️ Cyrraedd, cofrestru, rhwydweithio (09:30)
➡️ Croeso a chyflwyniadau gan:
Lois McGrath, Prifysgol Bangor
Meinir Lloyd Jones, Ymgynghorydd Arweiniol ar Addysg
Stefano Ghazzali, Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr
Gareth Morlais, Arbenigwr Technoleg Cymraeg, Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
➡️ Gweithgaredd rhwydweithio
➡️ Cyflwyniadau pellach gan:
Dr Irfan Rais, Ymgynghorydd Ymchwil
Aled Jones, Cymen Cyf.
Klaire Tanner, CreuTech
➡️ Q&A a chefnogaeth pellach
➡️ Cinio (12:30)
Mwynhewch y diwrnod!