Caffi’r Bedol

Menter Cymunedol Bethel

Mae ein caffi cymunedol yn ofod cynnes a chroesawgar Cymreig, yn dathlu diwylliant a’n cymuned. O’r eiliad y byddwch yn camu i mewn, cewch eich cyfarch gan staff Cymraeg lleol, cynnyrch, addurniadau a chelf lleol o Gymru, a staff cyfeillgar sy’n gwneud i bawb deimlo’n gartrefol. 

Rydyn ni’n gweini danteithion gan ddefnyddio cynhwysion o ffermydd a chynhyrchwyr lleol. Mae ein caffi’n fan cyfarfod i bobl o bob oed, gyda digwyddiadau sy’n dod â phobl ynghyd—boed hynny ar gyfer sgwrs anffurfiol, grŵpiau ymarfer corff (Ioga), crefftau, rhiant a plentyn neu sesiynau adrodd straeon cymunedol. Rydyn ni’n falch o fod yn fan lle mae pawb yn teimlo’n gysylltiedig â threftadaeth, diwylliant, ac â’i gilydd.
Rydym yn falch iawn o Fenter Cymunedol Bethel ac yn hapus ac yn agored i fod yn ofod Cymraeg i unrhyw un.

Menter Cymunedol Bethel, Bethel, Caernarfon, LL55 1AX

Previous
Previous

Cacennau Llan

Next
Next

Maeth Natur