Celf Ruth Jên

Shwmae, yn enw i yw Ruth Jen ac dwi’n byw ym mhentre Talybont, Ceredigion.

Dwi wedi bod yn ffodus iawn cael gwneud bywoliaeth fel artist proffesiynol ers gadael coleg ar ddiwedd yr wythdegau ac wedi arddangos yn helaeth yma yng Nghymru a thros y dwr.

Dwi wedi gorfod gwneud pob math o waith i gynnal yn hunan, paentio murluniau, gwaith dylunio, gweithdai celf mewn ysgolion a dysgu rhan amser.
Mae’r gallu i addasu a dysgu sgiliau newydd wedi bod yn allweddol wrth i mi barhau gyda fy ngyrfa fel artist.

Dwi'n brintwraig chwilfrydig ac yn aelod gweithredol o Argraffwyr Aberystwyth ers ei sefydlu yn 2004.
Mae enghreifftiau o fy ngwaith iw gweld mewn casgliadau preifat yng Nghymru a thramor.


Yn 2010 cefais arddangosfa yn seiliedig ar y wisg gymreig ar Ladi Cymreig fel eicon. Fy mwriad oedd ail-feddianu y ddelwedd ystradebol o’r ‘Fenyw Gymreig’ a chyflwyno darlun fwy cyfoes ac onest ohoni. Mae hiwmor yn chwarae rhan bwysig wrth lunio’r gwaith ac hefyd wrth dewis teitl.Mae cyfres y Ladis wedi profi i fod yn boblogaidd iawn ac yn fenter masnachol llwyddianus.Bellach mae’r Ladis iw gweld fel darnau o gelf gwreiddiol,printiau cyfyngedig,ffedogau,addurniadau ac ar gardiau cyfarch.

Aberystwyth, Ceredigion

Next
Next

Cymro Vintage