Cymru yn Llundain

Mae cymdeithas Cymru yn Llundain wedi’w sefydlu i roi cartre i’r Cymry sydd yn byw yno, ac yn ei dro wedi adeiladu cymuned bywiog yn y ddinas. Yn anffodus, cafodd y pandemic effaith negyddol ar y gymdeithas, ond efo diolch i gronfa her Arfor, rydym wedi gallu ail-ddechrau Cymru yn Llundain a hybu twf y gymdeithas.


Rwan, mae’r gweithgareddau a hybiau digidol yn ol yn fyw.
Diolch i stiwdio ddylunio Tropic rydym wedi ail-frandio yn llwyr, yn rhyddhau gwefan newydd sbon efo gwybodaeth am bopeth sydd yn digwydd yn Lundain, ac yn cadw cyswllt y dispora efo beth sydd yn digwydd yn ol yng Nghymru.
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ol yn fyw, yn hybu gwahanol bethau sydd yn digwydd gan Cymru yn Llundain, yn ogystal a grwpiau arall. Rydym yn ail adeiladu y perthnasau sydd wedi’w sefydlu efo’r grwpiau yma, fel y Ganolfan Cymry Llundain, Wales Week a Global Welsh.
Mae digwyddiadau Cymru yn Llundain yn ol, yn dechrau efo dathlu merched mewn busnes. Maent yn dod yn ol efo bang yn cynnal y digwyddiad ar lawr 23 y Shard, yn trafod heriau a llwyddianau merched mewn busnes, a sut i gefnogi busnesi merched drwy gwahanol fuddsoddiadau.


Yn symud ymlaen, bydd digwyddiadau misol, cylchlythyr misol, socials bywiog, a dilyniant ar ein gwaith efo Cymru yn Llundain.

Previous
Previous

Golwg

Next
Next

Cyfoes