Sensori Sara
Mae Sensori Sara yn gyfres o sesiynau ar gyfer babis 2 – 15mis, plant ifanc 1 – 4 oed a phlant Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) i hybu’r pum synnwyr. Mae sesiynau Sensori Sara’n darparu profiadau ar gyfer:
- Chwarae creadigol
- Tylino
- Amser Bol
- Symud
- Datblygiad gweledol
- Arogli
- Cerddoriaeth
mewn ffyrdd ymarferol, syml y gellir eu hailadrodd yn hawdd gartref.
Rydym hefyd yn defnyddio cyfuniad o ganeuon a rhigymau gwreiddiol a thraddodiadol Cymraeg i ddatblygu sgiliau lleferydd ac iaith cynnar, a gweithgareddau arwyddo synhwyraidd i helpu gyda chyfathrebu.