Sw Môr Môn
Mae Sw Môr Môn yn acwariwm unigryw gyda dros 40 o danciau yn arddangos y gorau o fywyd gwyllt morol Prydain! Dewch o hyd i greaduriaid hynod ddiddorol o bob rhan o arfordiroedd y DU, fel octopws, cimychiaid, morfeirch, llysywod conger a slefrod môr! Byddwch hefyd yn dysgu am gynefinoedd morol Prydain a’r gwaith ymchwil a chadwraeth sy’n helpu i’w hachub.