Celf a chreadigrwydd lleol
Ydych chi erioed wedi meddwl am fod yr artist? Erioed wedi cael diddordeb yn y meysydd creadigol o greu? Erioed wedi bod yn greadigol, ac yn awchu am gyfle yn y diwydiant? Dyma gyfle i chi ddysgu mwy am wirionedd y diwydiant, y cyfleoedd gwaith a phrofiad personol artistiaid llwyddiannus.
Er bod y diwydiant yn agored iawn, mae yna rwystrau sydd yn ei gwneud hi yn anodd iawn tynnu gyrfa allan o honno. Er enghraifft, mae llawer o artistiaid yn gweld diffyg rhwydwaith a chymuned o fewn eu gwaith. Mae hyn yn gwneud hi’n anodd “torri trawdd”, meddai Elin Crowley sydd yn artist printiau Cymraeg. Mae Elin wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ei Gwaith, ac yn dal i gynhyrchu a gwerthu yn gyson. Problem arall sydd yn wynebu artistiaid ydy sut i gael mewn i orielau ac arddangosfeydd heb wahoddiad. Er bod llawer yn creu arddangosfeydd, mae angen gwahoddiad yn aml iawn sydd yn rhwystro artistiaid newydd rhag bachu’r cyfle. Credai llawer mai prin ydy’r cyfleoedd yng nghefn gwlad Cymru. Mae artistiaid yn y maes yn cael eu gorfodi i symud i ddinasoedd mawr i allu llwyddo yn y maes. Neu....dyna eu cred nhw, beth bynnag . Wrth benderfynu ar yrfa neu lwybr, mae llawer yn debygol o ddewis rhywbeth fydd yn bosib gwneud yng Nghymru oherwydd y gred yma. Mae hyn yn rhwystro pobl rhag dilyn eu gwir ddiddordebau.
Ond, yn wir, mae’n bosib! Oherwydd ar y llaw arall, mae gyrfa artistig yn boblogaidd iawn! Gyda llawer yn llwyddo yn y maes. Os ydych chi yn gweld hi’n anodd cael eich traed oddi ar y llawr yn yr yrfa, mae gwledd o gyfleoedd yn agosach na’r disgwyl. Er enghraifft, mae canolfan y celfyddydau yn Aberystwyth yn dewis artist i greu arddangosfa Newydd o bryd i’w gilydd. Dyma ond un enghraifft o arddangosfeydd ar hyd a lled Cymru sy’n gwneud yr un math o beth. Yn yr achos yma, mae’r artistiaid yn cael cyfleoedd newydd i helpu datblygu’r arddangosfa, creu celf Newydd, arddangos hen ddarnau a mwy. Mae cyfle elfen mentro llwyddo’n lleol hefyd yn gyfle gwych. Os hoffech ddechrau busnes allan o’ch breuddwyd greadigol, dyma’r cyfle i chi! Os ydy’ch yn derbyn y cyfle, byddwch yn derbyn cefnogaeth ariannol o £1000 i ddatblygu syniad busnes. Yna, ar ddiwedd y rhaglen, fydd un aelod yn ennill £1000 ychwanegol. Byddwch yn datblygu sgiliau, a dysgu sut i ddatblygu eich syniadau. Un person fuodd yn llwyddiannus iawn ar y cwrs yma oedd Elen Bowen. Mae hi’n dweud mai dilyn cynllun ARFOR oedd y peth “gorau gwnaeth hi”. Mae ei busnes gemwaith hi yn dod a “boddhad” mawr iddi gan greu cysylltiadau â chwsmeriaid. Bellach, mae creu cysylltiadau a chael eich gweld mewn ffeiriau a digwyddiadau yn syml iawn. Mae hwb y cyfryngau yn golygu fod hyrwyddo eich hun yn haws nag erioed mewn unrhyw ddiwydiant! Mae’r cyfryngau hefyd yn eich galluogi i ddenu cynulleidfa (a chwsmeriaid) am ddim, yn syml, ac yn effeithiol! Gallwch arddangos eich gwaith i dynnu sylw at eich hun. Dyma le gwych i ddechrau! Mae llawer, hyd yn oed, yn medru hyrwyddo eu hunain yn uniongyrchol ac yn unig drwy gyfryngau cymdeithasol.
Mae cystadlaethau hefyd yn ffordd wych o hyrwyddo eich hun yn y maes. Mae’r Urdd a’r eisteddfod Genedlaethol yn sefydliadau gwych. Mae gwobrau ac ysgoloriaethau celf yn cael eu cynnig yno i hybu artistiaid Newydd. Felly, beth am roi cyfle arni? Pwy a ŵyr, efallai mai eich Gwaith chi fydd yn cael ei arddangos blwyddyn nesa’! Mae sefydliadau ehangach hefyd yn rhoi cyfleoedd i bobl gystadlu. Enghraifft ydy Cyswllt Celf. Eu nod ydy datblygu diddordeb yn y meysydd creadigol.
Mae llawer o lwybrau gwahanol i gymryd i allu cyrraedd gyrfa lwyddiannus. Er enghraifft mae rhai yn mynd i’r brifysgol, rhai yn mynd i’r coleg, a rhai yn dechrau heb unrhyw raddau o gwbl. Y pwynt ydy, nad oes angen i chi ddilyn llwybr penodol i allu llwyddo a phrofi eich diddordeb a’ch gallu ym mhellach. Mae cyrsiau yn ffordd arall, wahanol o ddatblygu sgiliau, gallu a gwybodaeth.
Mae Celf a Gwaith creadigol yn gallu bod yn ffordd hynod effeithiol a gwerthfawr o ledaenu’r Gymraeg a chreu argraff drawiadol ar bobl. Enghraifft wych o hyn ydy’r arwydd Cofiwch Dryweryn. Mae’r murlun yma’n anhygoel o enwog o ganlyniad i’r neges a’r egwyddor tu ôl iddo. Er nad oedd y darn yn wreiddiol yn fod fel celf, mae ei argraff a’r ffordd a grëwyd yn ei wneud yn gelf! Bellach, mae celf o’r murlun yn cael eu creu. Mae artistiaid fel Wynne Melville Jones – Aberystwyth- yn creu eu celf o wreiddiau Cymraeg. Er enghraifft mae ei weithiau o lefydd pwysig, neu o bethau a phwysigrwydd i’r Gymraeg. Dyma ffordd o ledaeni ddiwylliant a gwerthoedd Cymraeg mewn techneg weladwy. Nid dyma’r unig enghraifft. Mae gymaint o artistiaid yn adlewyrchu ein gwlad drwy gelf mewn cant a mil o wahanol ffyrdd. Dywedodd Vicky Jones sydd yn rhedeg busnes gemwaith, fod gweithio’n greadigol ac yn ddwyieithog wedi “chwarae rhan fawr yn adeiladu sylfaen” ei chwsmeriaid. Ychwanegodd fod hi yn credu fod yna lawer o gwmnïau Cymraeg yn ein cymunedau sydd yn “deall pwysigrwydd fod ein hiaith yn weladwy.” Ei chred ydy, dylai pobl fod yn “falch” o’r iaith sydd gennym i gynnig, gan ei fod yn rhywbeth “unigryw” I Gymru. Ar ôl symud yn ôl i Geredigion, mae hi yn teimlo’n “lwcus iawn” I fyw mewn lle mor “ysbrydoledig”.
Beth am ddechrau â swydd sydd yn eich galluogi i arbrofi a phrofi’r diwydiant? Mae swyddi marchnata yn boblogaidd iawn, ac mae’r angen yn gynyddol wrth i dwf y cyfryngau cymdeithasol ehangu. Ynglŷn â hyn, mae’r angen yn gynyddol am bobl greadigol i greu cynnwys digidol i fusnesau? Cysylltwch â nhw, efallai fod angen yn help arnynt! Opsiwn arall ydy cael prentisiaeth. Dyma gyfle i chi ddysgu wrth ennill. Os ydych chi yn newid gyrfa, yn ceisio newid o addysg i’r gweithle, neu mewn unrhyw sefyllfa arall, gallwch geisio am brentisiaeth. Mae sefydliadau fel llywodraeth Cymru yn cynnal cyrsiau. Mae’n werth edrych!