Cymry’n y golau
Rhwng y llenni a’r llwyfannau, sut mae sicrhau dyfodol y Cymry yn y golau?
Wrth i’r diwydiannau theatr dyfu’n eithriadol mewn dinasoedd mawr megis Llundain a Chaerdydd, oes gofid am ddyfodol theatrau bach Cymru? Oes digon o Gymry yn eu cefnogi nhw?
Mae llawer o theatrau yn gweld yr angen gynyddol am actorion, technegwyr a gweithwyr cyffredinol yn anodd ei gyrraedd. Er bod bwrlwm yng nglyn a’r diwydiant o hyd, mae’r trafferthion yn amlwg. Dywed Ffion Bowen- Arad Goch, mae’r drafferth fwyaf maen nhw fel cwmni’n wynebu ydy cyflogi rheolwyr llwyfan a thechnegwyr. Mae hi’n credu fod ceisio cyflogi siaradwyr Cymraeg cefn llwyfan yn medru bod yn “dalcen caled”. Er hyn, mae Arad Goch yn “lwcus iawn” eu bod nhw’n medru gweithio bron iawn yn llwyr drwy’r Gymraeg, a phob aelod yn gwneud ymdrech gynyddol a chyson i ganolbwyntio ar bwysigrwydd y Gymraeg. Yng Nghymru, mae prinder cyffredinol o staff cefn llwyfan, (Cymraeg neu ddi-gymraeg). Mae Mared Llywelyn – dramodydd- yn gweld mae’r sialens fwyaf i theatrau ydy ffeindio “pobl sydd a’r arbenigedd gorau mewn gwahanol elfennau o greu cynhyrchiad”. Mae’r holl nerth a’r amrywiaeth hynod eang o sgiliau sydd yn allweddol i lwyddiant cynhyrchiad yn anhygoel. Mae’n ddealladwy felly fod y galw uchel am staff yn anodd iawn i gyrraedd. Er hyn, mae’n wir ein bod ni’n benderfynol o gadw’r cyffro o theatr yn fyw ar draws y wlad.
Ar y llaw arall, mae rheswm i gael meddylfryd cadarnhaol a gobeithiol am y dyfodol. Enghraifft wych o hyn ydy agwedd a sefyllfa Canolfan Celfyddydau Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli. Dywed y neuadd nad ydyn nhw’n cael unrhyw drafferthion cyflogi siaradwyr Cymraeg gan eu bod nhw yng nghanol “ardal fwyafrifol Gymraeg”. Mae llefydd fel Pwllheli, sydd yn bennaf Gymraeg, yn dangos a phrofi pwysigrwydd a manteision cymunedau Cymraeg. Gan fod Neuadd Dwyfor yn rhedeg o dan Gyngor Gwynedd, mae’n angenrheidiol fod ei staff yn siarad Cymraeg. Mae ymgyrchoedd fel hyn yn golygu cynnydd mewn cyfleoedd i’r Cymry Cymraeg yn eu hardal leol. Enghraifft arall o agwedd bositif ydy Mared Williams. Mae Mared yn llwyddiannus iawn yn ei phrofiadau theatr a cherddorol, a'i chred ydy fod “cyfleoedd wedi bod yn tyfu” yn y diwydiant. Ar y llaw arall, mae hi’n ansicr am ddyfodol theatrau Cymru o ganlyniad i’r “toriadau sy’n digwydd”. Er hyn, mae hi’n credu fod theatrau yn “cynnig cyfleoedd i fagu dramodwyr newydd”. O ganlyniad, fydd mwy o sioeau a mwy o “waith i actorion yn y pendraw”.
Yn wir, mae’r bwrlwm yn dal i fyrlymu’n gryf gyda sioeau modern a chyfoes yn datblygu. Rhai enghreifftiau ydy Branwen Dadeni, parti priodas a Pijin. Mae’r sioeau’n ymdrin â themâu priodol, a chyfredol. Mae’n ffordd wych o ddenu diddordeb a chynulleidfaoedd newydd i ymdrin â’r syniad o’r diwydiant
Ond, sut mae hybu a chefnogi’r diwydiant er mwyn ei les yn y dyfodol?
Yn gyffredinol, gwyddwn fod annog ieuenctid Cymru yn ffordd gref o greu addewid o ddyfodol llawn adloniant thetarig Cymraeg. Mae cynlluniau a phrosiectau yn cael eu cynnal i hybu’r ifanc. Mae’r anogaeth ifanc yma yn cael ei weithredu gan sefydliadau gan gynnwys yr Urdd a Chanolfan Y Celfyddydau yn Aberystwyth. Mae’r ddarpariaeth sydd gennym yn golygu fod y genhedlaeth nesaf yn cael cyfleoedd proffesiynol fydd yn llesol i’w dyfodol mewn pob mathau o ffyrdd.
Er bod ein hieuenctid yn rhan fawr iawn o’r gobaith am ddyfodol gwell, nid ydy hi byth yn rhu hwyr i ddatgan diddordeb nag i ddechrau gyrfa newydd. Enghraifft ydy partneriaeth rhwng ARFOR, CFfl Cymru, a theatr Troed-y-rhiw. Mae’n gyfle i ddeg unigolyn (dros ddeunaw) ymuno a nhw am benwythnos preswyl ym mis Mehefin – ‘O syniad i sgript’. Mae’r profiad yn cynnwys gweithdai sgriptio a chyfle i ddechrau ysgrifennu. Nod y prosiect ydy “ymateb i her amlwg” sydd yng Nghymru ar hyn o bryd sef “diffyg dramâu gwreiddiol newydd yn y Gymraeg” meddai Alaw Fflur Jones sydd yn gydlynydd i theatr weithredol Troed-y-rhiw. Dywedodd hi hefyd ei bod yn “ffodus iawn” i allu cael swydd yno, gan nad oes “llawer o gyfleoedd a galw am waith” ym myd theatr cefn gwlad.
Mewn gobaith, mi fydd y pwyntiau cadarnhaol yn goresgyn bygythiadau’r prinderau a’r colledion. Pwy a ŵyr, efallai mai chi fydd dyfodol y diwydiant!
Megan Griffiths