Ceredigion yn Sisili

Llyfr coginio gwastraff bwyd yn cael llwyddiant rhyngwladol yn Ewrop! Ydych chi’n gwybod faint o fwyd ydych chi’n gwastraffu? Oes modd i chi wneud gwahaniaeth i helpu lleihau gwastraff?

Daeth criw cwmni Llanw o Benweddig at eu gilydd i greu datrysiad i wastraff bwyd. Ond ble ddechreuodd y cyfan? A, sut ddatblygwyd eu taith?

Pan ddechreuodd taith eu busnes, nôl ym mis Medi, yn wir roedd egwyddor y cwmni’n gryf- Lleihau gwastraff a chefnogi’n lleol.

Ond, cyn iddynt allu mynd ymlaen i greu datrysiad i broblem fyd-eang roedd angen cynilo arian. Daethant at eu gilydd i greu addurniadau, cardiau ac anrhegion Nadolig i werthu. Cawson nhw’r cyfle gwerthfawr i fynd i werthu yng Nghaerdydd cyn y Nadolig, ac yna mewn ffeiriau Nadolig lleol. Daeth hyn a nhw i bwynt gwych er mwyn dechrau ar eu prif syniad, y llyfr ryseitiau er mwyn lleihau gwastraff bwyd. Mae’n deg dweud nad oeddent yn disgwyl y llwyddiant fyddai’n deillio o’r syniad...

I gefnogi eu hegwyddor o gefnogi’n lleol, darganfuwyd noddwyr lleol i gefnogi’r costau argraffu. Mae’r noddwyr bellach wedi cael eu diolch mewn noson noddwyr a chael cydnabyddiaeth yn y llyfr ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r criw yn hynod werthfawrogol o’r noddwyr gan eu bod nhw’n sicr wedi bod yn hwb gwych iddynt ddechrau eu siwrne. 

Roedd y penderfyniad gwreiddiol o geisio lleihau gwastraff yn syml ac yn bendant. Ond, roedd penderfynu pa fath o wastraff yn hynod anodd. Fe ystyriwyd gwastraff plastig a dillad hefyd cyn dod i’r penderfyniad o wastraff bwyd. Un o’r prif resymau am hyn oedd y cysylltiad clir efo’r broblem gyfredol o gostau byw hefyd. Mae’n debyg fod pawb wedi cael eu heffeithio gan y broblem yma bellach, ac felly, byddai eu datrysiad yn briodol i anghenion pawb.

Sbarion. ‘Datrysiad i wastraff’. Ffrwyth llafur y criw oed eu llyfr coginio sydd yn defnyddio bwyd fyddai fel arfer yn mynd i wastraff i grey prydiau, melysion a byr-brydiau blasus. Mae’r llyfr yn llawn ryseitiau blasus fydd yn sicr o arbed ychydig o arian i chi, ac eich hybu i wneud eich rhan yn yr ymdrech i leihau gwastraff bwyd. Un o hoff ryseitiau’r criw ydy creision gan ddefnyddio croen tatws. Dyma un enghraifft o lawer. Yn y llyfr, gwelwn waith ac ymroddiad pawb yn chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y llyfr. Mae’r ffotograffiaeth, y dyluniad, a’r ysgrifen i gyd yn rhan o’r ymdrechion mawreddog.

Pan ddaeth yr amser i gystadlu yn y gystadleuaeth ranbarthol cyntaf, eu cred oedd bod y gystadleuaeth yn gryf. Roedd y pryder yno wrth weld timoedd eraill yn cyrraedd. Wrth i’r gystadleuaeth barhau, cafwyd cyfle iddynt arddangos eu gwaith mewn ffyrdd amrywiol gan gynnwys stondin, cyflwyniad, cyfweliad ac adroddiad busnes. Arddangoswyd pob elfen o’r gwaith yma, o’r defnydd o dechnoleg i’r creadigrwydd. Mae’n amlwg iawn fod eu syniadau wedi plesio’r holl feirniad gan eu bod wedi ennill y cwmni gorau. Yn ogystal, enillodd y criw  wobr am y defnydd gorau o dechnoleg. Mae eu defnydd o dechnoleg yn cynnwys tudalen flog sydd ar gael drwy god qr ar dudalen flaen y llyfr. Gwelwyd ar y dudalen flog, ychydig o’u hanes ac yna fideos (sy’n cael eu uwchlwytho’n raddol) o’r criw yn coginio rhai o’r ryseitiau i roi help llaw i’r cwsmeriaid. Wedi’r llwyddiant yma, roedd hi’n bryd symud ymlaen i’r rownd derfynol, genedlaethol drwy Gymru.

Gynhaliwyd y rownd yma yn Nhrefforest ger Caerdydd. Ar ôl diwrnod hir o drfeilio, dechreuodd yr un broses o gystadlu. Datblygwyd eu cynnyrch a’u deunydd ers y gystadleuaeth flaenorol. O ganlyniad, arloesodd y criw. Gan gymryd adborth y beirniaid rhanbarthol, roedd y beirniaid newydd hefyd wedi eu plesio’n fawr. Pencampwyr oedd y criw unwaith eto! Yn ogystal, enillwyd y wobr ar hybu’r gymuned a’r economi yng Nghymru. 

Roedd y rownd genedlaethol Brydeinig yn wahanol iawn yn wir, gan ei fod yn cael ei gynnal yn rhithiol. O ganlyniad, cyfarfodwydd ar dechnoleg oedd y cystadlu a’r canlyniadau. Fel cynrychiolwyr Cymru, gwelwyd y Gymraeg yn ganolbwynt i’w cyflwyniad. Daliodd hyn lygaid y beirniad, fel un o’u prif bwyntiau gwerthu, a’r hyn oedd yn eu gwneud nhw’n unigryw. Ar ôl cystadlu brwd, daeth y canlyniad allan......Pencampwyr unwaith eto! Erbyn hyn, roedd hi’n hen bryd iddynt bacio eu bagiau yn barod i fynd i Sicily!

Cafwyd amser gwerth chweil yn cynrychioli Cymru a’r Deyrnas Unedig yn Yr Eidal ar gyfer y rownd derfynol Ewropeaidd. Roedd y llyfr wedi eu galluogi i roi Cymru ar y map, ac i roi’r Gymraeg ar lwyfan ryngwladol. Cafwyd profiadau hynod broffesiynol, a bythgofiadwy wrth iddynt gael eu taflu i mewn i sefyllfaoedd y gweithle. Fel y tîm cyntaf erioed o Gymru, roedd yr anrhydedd a deimlwyd yn euraidd. Gwelwyd cystadlu brwd, rhwng tua 40 o wledydd Ewropeaidd! Er na ddaethom yn y safleoedd uchaf, mae’r gydnabyddiaeth am eu gwaith wedi bod yn werthfawr iawn i’r criw. Mae’r profiad yn gyffredinol wedi gadael y criw llawer yn fwy cydwybodol a gwerthfawrogol o’r gwaith caled sydd yn mynd i mewn i fusnesau lleol ac ehangach. Yn wir, nid yn unig y cyfleoedd proffesiynol oedd yn werthfawr iddynt yno. Cawsom gyfleoedd dyddiol i gymdeithasu mewn sefyllfaoedd megis dathliadau ar ddiwedd diwrnod o gystadlu. Roedd cymdeithasu a phobl o ardal mor eang yn addysgiadol iawn i’r criw wrth iddynt brofi diwylliannau, ieithoedd a dysgu mwy am wledydd y cyfandir.

I ddweud y lleiaf, nid oeddent yn disgwyl dod hanner mor bell yn y gystadleuaeth hon. Diolch i’w gwaith caled a dyfalbarhad gwelwyd eu breuddwyd yn cael ei wireddu wrth iddynt fynd ymlaen. Pwy a ŵyr beth welwn gan Sbarion yn y dyfodol...

Next
Next

Cymry’n y golau